25 Peth
Yn y gwanwyn eleni, lansiwyd ein hymgyrch 25 Peth — ymrwymiad i ddarparu 25 peth er budd economïau lleol Cymru, yr amgylchedd, y diwylliant, ein pobl, a’r diwydiant cyfathrebu ehangach, wrth ddathlu ein pen-blwydd yn 25.
Gyda hyn y daeth ein cynllun cymorth cyfathrebu brys i helpu busnesau ac elusennau yr effeithwyd arnynt yn negyddol gan y pandemig, a’n helpodd i ddod o hyd i brosiectau yr oedd mawr angen cymorth arnynt.
Fe wnaethom hefyd estyn allan at elusennau, achosion a sefydliadau yr oedd y tîm yn teimlo’n angerddol yn bersonol am eu cefnogi, a chawn ein llenwi â chryn falchder wrth edrych yn ôl ar bopeth yr ydym wedi’i gyflawni…
1: Sefydlu partneriaeth ag Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd — gan ddarparu interniaethau, mentora, a chefnogi myfyrwyr iaith Gymraeg i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd a gwella’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
2: Dyfeisio strategaeth farchnata, negeseuon brand a we-gopi ar gyfer Barod — mae’r CIC, y mae ei dîm yn gymysgedd balch o bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl, yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i helpu busnesau a sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat i fod yn fwy cynhwysol.
3: Cyflwyno rhaglen lles arobryn — o fentrau awr ginio a ddyluniwyd i annog saib o’r ddesg, digwyddiadau rhithiol yn ystod cyfnodau clo, amser i ffwrdd i gefnogi achosion da, a sesiynau mewnol i rannu sgiliau — mae ein calendr yn ymrwymo i ofalu am hapusrwydd a lles yr holl dîm. Mewn gwirionedd, llwyddodd ein rhaglen lles i ennill Aur am y Fenter Lles Gorau yng Ngwobrau Pride CIPR Cymru Wales 2021/22.
4: Helpu Gwanwyn Glân Cymru — fe roesom y pnawn i ffwrdd i’n tîm a rhoi offer casglu sbwriel iddynt er mwyn cefnogi gwaith glanhau cymunedol blynyddol Cadwch Gymru’n Daclus.
5: Cyflwyno ‘Stamp Cynaliadwyedd’ — drwy weithio gyda myfyriwr talentog MDes Global Design, Katie Price, bydd ein stamp unigryw yn cael ei ddefnyddio mewn cynigion a chynlluniau cleientiaid i ddangos sut mae ein hymgyrchoedd wedi’u cynllunio i gefnogi Cymru gynaliadwy.
6: Dangos balchder i gymunedau LGBT Cymru — rhoesom sylw i bedwar busnes gwych sy’n eiddo i bobl LGBTQIA+ yng Nghaerdydd yn ystod Mis Pride ym mis Mehefin. Bu’r Aubergine Café, Spokesperson, Songbirds, a The Barber Room CDF yn destun nodwedd wythnosol ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Yn y cyfamser, rhoesom egwyl ginio estynedig neu gyfle i orffen yn gynnar i ‘Siopa’n Hoyw’ yn y Queer Emporium dros dro yng Nghaerdydd, y cyntaf o’i fath yn y DU.
7: Helpu i godi safonau proffesiynol ein diwydiant — Mae’r Uwch Gyfarwyddwr Cyfrif, Sophie, yn gwirfoddoli gyda’r Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR) lle mae’n gyfrifol am farchnata digwyddiadau DPP i gymuned gyfathrebu Cymru.
8: Ymuno â’n cleient Taclo Tipio Cymru — Rhoddodd Lucy, Rowan a Charlotte eu prynhawn i wirfoddoli mewn digwyddiad glanhau gwastraff a adawyd yn anghyfreithlon, a drefnwyd gan geidwaid Comin Gelligaer a Merthyr.
9: Tynnu sylw at bwysigrwydd diogelwch ar draethau yn ystod gwyliau haf yr ysgol — gwnaethom gefnogi’r ymgyrch #RespectTheWater / #ParchwchYDŵr gan yr RNLI drwy gyhoeddi cynnwys ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a thrwy rannu gyda’n rhanddeiliaid allweddol i ledaenu’r neges.
10: Ymrwymo i ddefnyddio mwy o’r Gymraeg, gwella’r defnydd ohoni, a’i dysgu — gyda chymysgedd o siaradwyr Cymraeg rhugl, dysgwyr, a newydd-ddyfodiaid, rydym wedi rhoi pawb yn Nhîm Eq ar eu taith dysgu neu welliant bersonol eu hunain gyda’n cleient, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
11: Arwyddo addewid Addo Croeso Cymru – ac ymrwymodd ein tîm i wneud y pethau bychain sydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i Gymru dros yr haf, o ymarfer eu Cymraeg i werthfawrogi’r awyr agored a chefnogi busnesau lleol.
12: Buddsoddwyd i ddiogelu treftadaeth Cymru – drwy ddarparu holl dîm Equinox ac unigolyn o’u dewis nhw ag aelodaeth Cadw er mwyn eu galluogi i archwilio ein safleoedd hanesyddol a chwarae rôl wrth helpu i’w gwarchod ar hyd y ffordd.
13: Helpu’r rheiny sydd fwyaf bregus yn Abertawe – i gefnogi’r prosiect gweithredu cymdeithasol sydd wedi ennill sawl gwobr, Matthew’s House, crëom becyn cymorth i randdeiliaid a rheoli lansiad i hyrwyddo’i ap newydd, cyntaf-o’i-fath, 'Hope in Swansea'. Mae’r ap yn cysylltu’r rhai sydd angen cymorth fwyaf gyda sefydliadau sy’n darparu’r cymorth hwnnw ledled Abertawe, drwy un clic syml.
14: Lansio ein ‘Hwb Creadigol’ – ar ôl cyfnod o ymgynghori, gwelsom fod ein tîm eisiau cadw’r elfen o gynhyrchiant wrth weithio o gartref, ond hefyd yn dal i werthfawrogi mannau a rennir ar gyfer cydweithio’n greadigol, a dysgu a datblygu. Mae’r dull cyfun hwn, gyda’r ychwanegiad o’n hyb newydd yn Tramshed Tech, yn blaenoriaethu lles ein staff a’u datblygiad gyrfaol, tra hefyd yn ei gwneud hi’n haws i gydweithio â chymuned greadigol Caerdydd trwy gefnogi ein hymrwymiad i weithio’n fwy cynaliadwy.
15: Glanhau traeth yng Nghymru – i helpu Surfers Against Sewage yn ei cenhadaeth i lanhau miliwn o filltiroedd o arfordir, trefnom ein digwyddiad #MillionMileClean ein hunain ar draeth Ynys y Barri.
16: Creu cynnwys ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru — cefnogi prosiect Cynefin: Lleiafrifoedd Ethnig Cymru, drwy rannu profiadau’r rhai sy’n ymwneud â’r prosiect.
17: Helpu unigolyn ifanc i mewn i fyd gwaith — croesawu Osian fel Cynorthwyydd Gofal Cwsmer a Gweinyddiaeth Ddwyiethog — rôl a grëwyd drwy gynllun ‘Kickstart’ gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
18: Dathlu busnesau o dan berchnogaeth bobl dduon – cynhyrchu ffilm yn cynnwys trafodaeth onest gyda Jessica Dunrod a John Giwa-Amu am bwysigrwydd cynrychiolaeth gyfartal a sut y gall bobl ddod yn gynghreiriaid i fusnesau sy’n eiddo i bobl dduon. Gwyliwch y ffilm yma.
19: Dathlu unigolion a wnaeth gwahaniaeth enfawr yn ystod y pandemig — gan sicrhau presenoldeb y cyfryngau yn premier Tîm Cymorth Ieuenctid Lleiafrifoedd Ethnig Cymru (EYST) o “We Are Wales” — casgliad o ffilmiau byrion yn adrodd straeon arwrol cudd o bobl croenlliw o Gymru. Mae’r ffilmiau anhygoel yn adrodd straeon ysbrydoledig 21 o bobl a grwpiau cymunedol gwahanol o bob rhan o Gaerdydd, Abertawe a Chasnewydd — wedi’u creu gan bedwar newyddiadurwr talentog.
20: Cefnogi’r genhedlaeth nesaf o gyfathrebwyr – daeth ein Rheolwr Cyfrif, Hannah, yn fentor personol i fyfyrwraig MA Cyfathrebu, Ymarfer y Cyfryngau, a Chysylltiadau Cyhoeddus o Brifysgol Abertawe, Cait Bolt, yn cynnig cefnogaeth gydag astudiaethau a chyngor gyrfaol drwy gydol ei Gradd Meistr.
21: Cynrychioli Heads Above the Waves — cefnogi’r elusen iechyd meddwl drwy brynu a gwisgo ei nwyddau (cŵl iawn) yn sesiwn ffotograffiaeth yr asiantaeth.
22: Gwirfoddoli ein hamser i Homeless Hope — gwaith ysgrifennu copi ac ailgynllunio gwefan yr elusen, er mwyn helpu i roi cyhoeddusrwydd i’r cymorth sydd ar gael i bobl ddigartref ac agored i niwed yng Nghymru.
23: Rhannu cyngor gyrfa yn JOMEC — yn ogystal â chefnogi myfyrwyr o Brifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Abertawe, fe wnaethom ddarparu nifer o leoliadau interniaeth, mentora a darlithoedd gwadd drwy gydol y flwyddyn.
24: Hyrwyddo’r elusen gŵn Hope Rescue — hyrwyddo ei Christmas Moonlit Walk drwy sylw cenedlaethol yn y cyfryngau a helpu gyda’r digwyddiad.
25: Lansio cwrs Cymraeg i’r diwydiant cyfathrebu — gan weithio mewn partneriaeth â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, mae’r cwrs wedi’i achredu gan ein corff proffesiynol, y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR), a’r nod yw codi safonau cyfathrebu dwyieithog yng Nghymru.