top of page

Llyw. Cymru Cadw

Ymgyrch rhoddion aelodaeth Nadolig 2020

Mae Cadw yn un o'n cleientiaid hirsefydlog, ac rydym yn falch iawn o’u cefnogi - gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru - gyda'u gofynion marchnata integredig ar hyd y flwyddyn.

 

Er mwyn rhoi hwb i niferoedd aelodaeth dros gyfnod Nadolig 2020, lansiwyd ymgyrch hysbysebu ddigidol ysbrydoledig i hybu gwerthiant Rhodd Aelodaeth Cadw i anwyliaid. Gweithredwyd yr ymgyrch tra bod safleoedd Cadw yn parhau ar gau i ymwelwyr yn sgîl COVID-19.

6oqkEjhQ.png

Tactegau

​

  • Trwy weithio ochr yn ochr â thimau mewnwelediad ac aelodaeth Cadw fe gasglom ddata cynulleidfa i sicrhau bod ein negeseuon a’n gweithgaredd ymgyrchu yn tynnu sylw o fewn y marchnadoedd cywir.

​

  • Sicrhawyd bod negeseuon ymgyrchu yn parhau i fod yn sensitif i gyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru a'r DU ehangach.

​

  • Cyfunwyd copi dyngarol clyfar â delweddu da; fe wnaeth ein hysbysebion fanteisio ar emosiynau’r Nadolig, rhoddion Nadoligaidd a’r ymdeimlad o obaith ar gyfer 2021.

​

  • Manteisiwyd ar Ddydd Gwener Gwallgo a Dydd Llun Seiber i hyrwyddo cynigion arbennig am roddion Nadolig o fewn terfyn amser penodol.

 

  • Trwy nodi oedolion yn prynu i’w rhieni, unigolion â’u plant wedi gadael y nyth, cyplau milflwyddol a theuluoedd sy'n byw yng Nghymru fel y demograffeg allweddol. A hefyd, pobl sy'n byw ar y ffin â Lloegr, gan gynnwys Cymry sy'n byw y tu allan i’r wlad, yn prynu aelodaeth ar ran anwyliaid i gefnogi amddiffyn a gwarchod treftadaeth adeiledig Cymru.​

  • Defnyddiwyd cyfuniad o gynnwys organig a hysbysebion ar Facebook ac Instagram i gyflawni ein hymgyrch - gydag hysbysebion, cynnwys a dyraniad cyllideb yn cael eu haddasu yn rheolaidd i wneud y gorau o berfformiad a chost-fesul-amcan.

 

  • Trefnwyd cyfres o sesiynau ffotograffau mewn lleoliadau Cadw yn ogystal â stiwdio broffesiynol i greu delweddau syfrdanol a fyddai’n apelio i bob uned o’r gynulleidfa darged.

 

Canlyniadau

 

  • Yn ystod cyfnod o fis yr ymgyrch, gwerthwyd cyfanswm o 180 rhodd aelodaeth o ganlyniad uniongyrchol i ymgyrch ddigidol Equinox.

 

  • Ar ôl cyrraedd bron i 190k o ddefnyddwyr trwy'r ymgyrch, roeddem yn gallu priodoli o leiaf ROI 6:1 i'r ymgyrch.

 

  • Roedd yr ymgyrch yn + 397% ar ganlyniad y DPA.

bottom of page