top of page

Sgyrsiau Athrawon

STAEDTLER UK

I ddathlu 10fed pen-blwydd Clwb Athrawon STAEDTLER,  cawsom y dasg o ddatblygu gweithgaredd i “roi yn ôl” i gymuned ffyddlon y Clwb o 20k+ o athrawon ysgol gynradd y DU. 

 

Mewn ymateb i hyn, dyfeisiodd Equinox Sgyrsiau Athrawon: cyfres o ddigwyddiadau rhithwir, yn cynnwys gweminarau/gweithdai/trafodaethau a gynhelir gan bobl/personoliaethau allweddol o fyd addysg ac addysgloniant.

Art Class

Gan nodi carreg filltir y pen-blwydd, gwelsom gyfle i wella profiad y gymuned ymhellach — trwy roi mynediad am ddim i aelodau i gyfleoedd DPP/cymdeithasol/cydweithredol gwerthfawr y tu allan i'r ystafell ddosbarth.

 

A thrwy ddarparu'r profiad gwerth ychwanegol hwn, llwyddodd STAEDTLER - brand deunydd ysgrifennu byd-eang - i gynyddu teyrngarwch cwsmeriaid a gwella dulliau o hyrwyddo'r brand o fewn ei farchnad bwysicaf (addysg)

Er mwyn gosod STAEDTLER ochr yn ochr â lleisiau amrywiol, uchel eu parch ym maes addysg, fe wnaethom ni ffurfio partneriaethau gyda:

Results Grid (4)_edited.jpg

Cynhaliodd pob siaradwr, a ddewiswyd oherwydd eu maes academaidd arbenigol a pherthnasol, sesiwn (1 awr-1.5 awr) lle cafodd aelodau'r Clwb Athrawon gyfle i ryngweithio â gweithgareddau, gofyn cwestiynau a thrafod pynciau amrywiol yn ymwneud â chwricwlwm y DU a'r diwydiant yn ehangach.

Trwy gynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau yn y gyfres Sgyrsiau Athrawon, roeddem yn gallu cynyddu diddordeb trwy hyrwyddo digwyddiadau unigryw sy'n fwy perthnasol i is-gynulleidfaoedd o  athrawon.

Tactegau

 

  • Ystyriwyd ffactorau PESTLE ar gyfer cynllunio

  • Defnyddiwryd adborth gan aelodau i lunio strategaeth/cynllunio digwyddiad

  • Datblygwyd brandio trawiadol er mwyn cyflwyno hunaniaeth weledol gydlynol ar gyfer y Sgyrsiau Athrawon ac arddangos y cynnwys cyffrous yn glir

  • Sefydlwyd tudalennau Eventbrite unigol ar gyfer pob digwyddiad

  • Darparwyd cyfarwyddyd manwl ar gyfer pob siaradwr

  • Cynigiwyd spotoleuoadau noddi amlwg i am ddim i gwsmeriaid cyfanwerthu allweddol STAEDTLER

  • Cyhoeddwyd tudalen benodol am Sgyrsiau Athrawon ar brif wefan y Clwb Athrawon er mwyn darparu gwybodaeth ac annog aelodau newydd i gofrestru

  • Cynnwys cyfryngau cymdeithasol organig gan gynnwys graffigau/cyfri'r dyddiau tan y digwyddiad/rhoi deunydd ysgrifennu’n rhad ac am ddim/gwybodaeth ehangach am fanteision bod yn aelod o'r Clwb Athrawon/postio negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn fyw o ddigwyddiadau

  • Hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys ymgyrch Meta-Hysbysebu wedi'i thargedu'n eang yn targedu athrawon ysgol gynradd yn ôl y teitl swydd, yn ogystal â diddordebau oedd yn gysylltiedig â phob sesiwn

  • Trefnu postiadau a fideos byr wedi'u noddi gyda nifer o siaradwr Sgyrsiau Athrawon 

  • E-gylchlythyr yn rhoi’r olwg gyntaf ar y digwyddiad i gronfa ddata lawn aelodau’r Clwb Athrawon, ynghyd â negeseuon atgoffa am ddigwyddiadau dilynol a chyfarwyddiadau ymuno ar gyfer mynychwyr

  • Negodi lleoli taflenni am Sgyrsiau ar gyfer Athrawon yn nigwyddiadau DPP Disney for Schools ledled y DU

  • Rheoli pob sesiwn fyw gan ddefnyddio Zoom Events, hwyluso cyflwyniad ar gyfer pob sesiwn a rheoli sesiynau Holi ac Ateb

  • Adolygiadau ar ôl y digwyddiad trwy arolygon.

Service Grid (2).png
Results Grid (3).png
bottom of page