Ein Cyrsiau Hyfforddiant
Rydyn ni'n arbenigwyr mewn rhoi lle i fusnesau a brandiau ar y llwyfan — a gallwch chi fod, hefyd ✨
Gyda hanes o ddarparu miloedd o gyrsiau, ein tîm o hyfforddwyr cyfathrebu talentog yw'r gorau oll.
Ni yw hyfforddwyr cyfathrebu dynodedig Senedd Cymru ers 2015 — ond ar hyd y blynyddoedd, mae ein tîm hyfforddi hefyd wedi trawsnewid galluoedd cyfathrebu awdurdodau lleol; sefydliadau sector cyhoeddus; a busnesau'r sector breifat.
Rydym yn cymhwyso’r hyn rydyn ni’n dysgu ein hunain drwy ein ymgyrchoedd dydd i ddydd i ddylunio cyrsiau cyfredol — wedi'u teilwra at anghenion ein cleientiaid.
Ond mae cynnwys y cyrsiau ond mor gryf â'r bobl sy'n eu darparu. A dyna pam mae ein hyfforddwyr llawn-achrededig yn cael eu dewis â llaw a'u hyfforddi yn arddull Equinox, sef yr hyn ry’n ni’n adnabyddus amdano.
Mae ein dull hyfforddi yn ysgogol, cyfeillgar a chynhwysol — gyda modd addasu i sicrhau dealltwriaeth o brofiadau a heriau pawb sy’n mynychu — gyda phob cwrs wedi’i teilwra i’ch gofynion penodol.
Cyrsiau diwrnod llawn
-
O £2,250.00
-
Yn cynnwys 1-2 hyfforddwr achrededig
-
Hyd at 6 o gynrychiolwyr
-
Wedi'i deilwra at anghenion cleientiaid.
Mae'r cyrsiau'n cynnwys:
-
Hyfforddiant cyfryngau darlledu
-
Sgiliau cyfathrebu a chysylltiadau cyfryngau uwch
-
Sgiliau cyfathrebu creisis.
Cyrsiau hanner diwrnod
-
O £1,200.00
-
Yn cynnwys un hyfforddwr achrededig
-
Hyd at 6 o gynrychiolwyr
-
Wedi'i deilwra at anghenion cleientiaid.
Mae'r cyrsiau'n cynnwys:
-
Ysgrifennu datganiad i'r wasg i ddechreuwyr
-
Gweithdai cyfryngau cymdeithasol yn benodol i blatfformau (LinkedIn, X, Instagram, TikTok, Facebook)
-
Dosbarth meistr creu cynnwys.
Cyrsiau pwrpasol