top of page

Tafwyl ar TikTok

Tafwyl

Lansiodd Equinox sianel TikTok Tafwyl yn 2022 — fel rhan o raglen farchnata heb gyfnewid arian ehangach a gyflwynwyd gennym i hyrwyddo’r ŵyl, ac roedd y cwbl yn canolbwyntio ar ddigwyddiad ffrinj dylanwadwyr.

 

Ar gyfer 2023, fe benderfynon ni adeiladu ar fomentwm y sianel TikTok newydd, gan ddefnyddio’r pethau allweddol a ddysgwyd o ddigwyddiad y llynedd i gynhyrchu ymgyrch TikTok heb gyfnewid arian — a gynlluniwyd er mwyn apelio at gynulleidfa darged Tafwyl a hynny tra’n arddangos gwerthoedd gwirioneddol Gymreig y brand.

 

Fel asiantaeth gyfathrebu ddwyieithog sydd angerddol am TikTok, roedd yr her hon wirioneddol at ein dant ni.

Festival Crowd

I ni, y gamp oedd creu cynnwys a fyddai'n siarad â chynulleidfa graidd Tafwyl, sy’n bobl ifanc, ddwyieithog — trwy ddefnyddio tueddiadau a seiniau poblogaidd, a sefydlu'r sianel fel lle i fynd i gael cynnwys hwyliog, ond addysgiadol am yr ŵyl — a’r cyfan tra’n dathlu'r iaith fwyaf cŵl ar y blaned!

 

Dan arweiniad ein Gweithredwyr Cyfrifon brwdfrydig, Tezni a Dafydd, fe greon ni 25 TikTok — oedd yn cynnwys popeth o'r tîm yn dawnsio yng nghanol Parc Bute a rhoi talebau bwyd a diod am ddim ar Heol y Santes Fair Caerdydd, i ddysgu a rhannu Iaith Arwyddion Prydain.

Gwasanaethau - CYM.png

Mae'r prosiect hwn lle nad oeddem yn cyfnewid arian yn adlewyrchu gwerthoedd brand Equinox fel asiantaeth ddwyieithog ac yn dangos ein hadnabyddiaeth gadarn o TikTok a sut i gael effaith ar y llwyfan hwnnw— boed yn gweithredu yn Gymraeg neu Saesneg!

 

Dyma rai o'n huchafbwyntiau... I grynhoi: fe wnaethon ni wir dynnu sylw at Tafwyl.

Canlyniadau - CYM.jpg
Adborth cleient - CYM.jpg
bottom of page