Llwybr Arfordir Cymru a’r Llwybrau Cenedlaethol
Ein cyfnod cerdded…
Yn gyrchfan i ymwelwyr heb ei ail, mae Llwybr Arfordir Cymru yn rhychwantu 870 milltir o arfordir di-dor.
Yn y cyfamser, mae Llwybrau Cenedlaethol Cymru (Llwybr Clawdd Offa a Llwybr Glyndŵr) yn cwmpasu 312 milltir gyda'i gilydd — gan ddilyn llwybr golygfaol trwy ganolbarth Cymru ac ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Ers 2021, mae Equinox wedi cael y dasg o hyrwyddo Llwybr Arfordir Cymru a'r Llwybrau Cenedlaethol — gan annog pobl leol ac ymwelwyr i fwynhau’r Llwybrau.
O ddathlu cerrig milltir pwysig *iawn* i hyrwyddo teithlenni cerdded pwrpasol a lansio cydweithrediad unigryw o nwyddau cerdded — anogwyd cymaint o bobl â phosib o Gymru a thu hwnt i gerdded, mwynhau a pharchu’r awyr agored Cymreig. Ond sut?
Tactegau:
-
Cynnwys cyfryngau cymdeithasol organig yn arddangos y gorau o Lwybr Arfordir Cymru, Llwybr Clawdd Offa a Llwybr Glyndŵr — o olygfeydd godidog i ffeithiau diddorol a chynnwys rhyngweithiol #GuessTheStretch.
-
Cyfres o hysbysebion wedi’u targedu a’u hoptimeiddio ar gyfer traffig gwefan a cliciau ar y linc ar gyfer denu cwsmeriaid i siop Llwybr Arfordir Cymru. Roedd y cynnwys yn cael ei fonitro yn ddyddiol i sicrhau'r canlyniadau gorau gan ragori’r KPIs.
-
Ymgysylltiadau dilynwyr: cydweithio gyda rhai o gerddwyr mwyaf dylanwadol y Llwybr a rhai o grëwyr cynnwys gorau Cymru i arddangos cyfres o ‘Digwyddiadau Epic’ ar hyd y Llwybr — o’r mannau gorau i ddal y machlud i’r lleoliadau gorau am bicnic.
-
Ymgysylltiadau rhanddeiliaid: gan gynnwys ffurfio partneriaeth unigryw gyda Heads Above the Waves — elusen nid-er-elw — gyda phob dilledyn yn cefnogi iechyd meddwl pobl ifanc.
-
Straeon PR amserol i hyrwyddo’r llwybrau — e.e., yn ystod Mis Cerdded Eich Ci; cyn gwyliau’r ysgol; a thrwy gydol y brif tymor cerdded. Ategwyd gan becynnau cyfryngau a oedd wedi’u dylunio ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru a’r Llwybrau Cenedlaethol — a oedd yn cynnwys prif wybodaeth, ffeithiau cyflym a straeon cyfryngau unigryw a gwahanol ar gyfer codi ymwybyddiaeth bellach ymysg newyddiadurwyr y DU.