Partneriaeth
Cofleidio yn iaith y nefoedd
​
Ers 2021 mae Equinox wedi bod yn gweithio gyda Partneriaeth i annog rhieni, athrawon a disgyblion (cynradd ac uwchradd!) o fewn rhanbarthau Sir Benfro, Caerfyrddin ac Abertawe i ddefnyddio a chofleidio yn eu Cymraeg — boed yn siaradwyr iaith cyntaf, yn ddysgwr neu yn chwilfrydig am ddysgu.
​
Un o’r prif brosiectau a grëwyd oedd cyfres o fideos yn amlygu’r buddiannau o siarad a dysgu drwy’r Gymraeg. O chwalu’r mythau o amgylch addysg Gymraeg i rieni, i ysbrydoli athrawon i ehangu ar eu gweithgareddau Siarter Iaith ac arddangos y ffasiwn hwyl sydd i’w gael drwy siarad a chwarae drwy’r Gymraeg. Llwyddwyd i gyrraedd ein tri phrif gynulleidfa darged, a hynny i gyd o dan frand eilradd Partneriaeth, sef Clwb Ysgol — cymuned ar-lein i’r rheiny sy’n medru, dysgu neu eisiau dysgu iaith y nefoedd.
Tactegau:
Rhieni – cyfres Astudiaethau Achos
Pwrpas y gyfres oedd hyrwyddo’r pwysigrwydd a’r manteision o addysg cyfrwng Cymraeg yn dilyn cynnydd mewn rhieni yn symud eu plant i ysgolion cyfrwng Saesneg.
Er mwyn targedu rhieni oedd ar fin gwneud penderfyniad am addysg eu plant, ac felly, cynllwyniwyd y fideos fel cyfres sgyrsiol sy’n ‘chwalu’r mythau’ o addysg cyfrwng Cymraeg, gan dynnu at fewnwelediadau rhieni ac unigolion dylanwadol a oedd gyda straeon a phrofiadau cadarnhaol i’w rhannu.
Cafodd y gyfres ei gwylio 413,914 o weithiau drwy ymgyrch hysbysebion Meta a oedd yn targedu rhieni'r rhanbarthau.
Athrawon — arddangos yr arferion da o’r Siarter Iaith
Er mwyn codi ymwybyddiaeth o lwyddiannau ysgolion cynradd y rhanbarthau yn unol â Fframwaith y Siarter Iaith, crëwyd cyfres fideo er mwyn annog disgyblion ac athrawon eraill i gymryd ysbrydoliaeth, ac ehangu ar weithgareddau Siarter Iaith eu hysgolion eu hunain.
O ddisgyblion ac athrawon i aelodau o’r gymuned leol, mae’r gyfres yn cynnwys astudiaethau achos gan ysgolion ar hyd a lled y rhanbarth sy’n rhagori yn weithgareddau’r Siarter.
Cafodd y gyfres ei wylio 71,000 o weithiau, gyda 42,000 o’r rheiny wedi ymgysylltu â’r cynnwys.
Disgyblion — strategaeth ‘Ffa La La’
Canu a dawnsio — pa ffordd well o gael disgyblion meithrin a derbyn i ymarfer eu sgiliau Cymraeg a dysgu am strwythurau brawddegau? Crëwyd fideo yn targedu athrawon meithrin a derbyn er mwyn arddangos buddion raglen newydd Partneriaeth, sef Ffa La La — cynllun sy’n mewnbynnu canu a dawnsio gyda dysgu’r Gymraeg.
Mae’r fideo bellach yn cael ei ddefnyddio gan Partneriaeth ar ddiwrnodau hyfforddiant, a gan Lywodraeth Cymru, er mwyn hyrwyddo’r rhaglen i randdeiliaid a sicrhau dyfodol i'r cynllun.