WWF
Cymru
Amddiffyn bywyd gwyllt Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol — un post ar y tro...
Mae Cymru dan fygythiad fel erioed o’r blaen — dyna pam mae WWF Cymru yn brwydro i adfer cynefinoedd a rhywogaethau, gan sicrhau y gall pobl a byd natur ffynnu mewn amgylchedd glanach a thecach.
Ein rôl ni? Creu cynnwys cyfryngau cymdeithasol deniadol sy’n ysbrydoli pobl a sefydliadau i frwydro cynhesu byd eang; gwrthdroi colled natur; a throsglwyddo i system fwyd cynaliadwy — i gefnogi cenhadaeth ehangach WWF.

Hyd yma, mae ein cynnwys — yn seiliedig ar y model ‘Hero, Hub Hygiene’ — wedi ein gweld yn creu cynnwys dwyieithog amrywiol (ond hwyliog) ar draws sianeli Facebook, X ac Instagram WWF Cymru. O ddathlu llwyddiannau Prosiect Morwellt a Pride Cymru i arddangos cariad Iwan Rheon tuag at balod (ac wrth gwrs, llawer o luniau ciwt o gŵn dŵr) — dyma sut rydyn ni’n chwarae rhan fach mewn ysbrydoli newid mawr…

Tactegau
-
Gwneud defnydd lawn o adnoddau platfform Instagram — gan gynnwys Reels, cynnwys carwsél, a Stories.
-
Creu cynnwys adweithiol — cydbwyso cynnwys hwyliog, sy’n trendio a newyddion rhyngwladol.
-
Gosod lens Gymraeg ar faterion amgylcheddol ehangach.
-
Cynnwys trosglwyddadwy ac ysgafn gyda delweddau o fywyd gwyllt.
-
Creu cynnwys yn seiliedig ar ddyddiau allweddol (e.e., Great Big Green Week, Earth Hour) a digwyddiadau diwylliannol cenedlaethol yng Nghymru (e.e., Pride Cymru, Gŵyl y Gelli).
-
Annog ymgysylltiadau gan dagio dylanwadwyr perthnasol, crëwyr cynnwys a sefydliadau/brandiau/ymgyrchoedd.
-
Uwcholeuo cerrig milltir prosiectau penodol.
-
Ymagwedd ffres a deinamig tuag at ddwyieithrwydd — gan ymgysylltu siaradwyr Cymraeg a Saesneg.
-
Ymgysylltu cymunedol — ymgysylltu gyda sylwadau ac ymatebion i annog sgwrs ddeuol.
.jpg)