Ein Stori Ni
Ers 1996, rydyn ni wedi bod yn creu a darparu atebion cyfathrebu creadigol ar gyfer ein cleientiaid. Mae llawer wedi newid ers hynny – tirwedd y cyfryngau, y cyfryngau cymdeithasol a sut mae cynulleidfaoedd yn derbyn newyddion a gwybodaeth.
Lwcus felly ein bod ni wrth ein bodd â newid.
Rydyn ni’n buddsoddi yn ein tîm yn barhaus i ehangu ein gwasanaethau er mwyn darparu'r gwasanaeth integredig diweddaraf i’n cleientiaid, a sicrhau eu bod bob amser yn disgleirio.
Yn hytrach na gweithredu’r asiantaeth ar draws nifer o adrannau, mae’n bwysig i ni bod ymgyrchoedd ein cleientiaid yn cael eu cyflwyno’n ddi-dor ar draws pob llwyfan. Dyna pam bod ein tîm unigryw a dawnus iawn wedi’u hyfforddi i adrodd eich stori chi drwy bob cyfrwng, dan arweinyddiaeth arbenigwyr.
Sefydlwyd Equinox gan Eryl Jones, perchennog a chadeirydd gweithredol y cwmni yn 1996 ac mae ef wedi datblygu portffolio anhygoel o gleientiaid uchel eu proffil sy’n cwmpasu treftadaeth, twristiaeth, manwerthu, iechyd, addysg, tai ac adfywio. Gan weithio gyda’r sector preifat a’r sector cyhoeddus yng Nghymru ac yn y DU, mae’r asiantaeth wedi ennill mwy na 50 o wobrau’r diwydiant ledled Cymru a’r DU.
Ein cenhadaeth
Rydyn ni’n ymfalchïo mewn creu ymgyrchoedd cwbl integredig sy’n ystyriol ac yn greadigol - sy’n golygu bod gwaith cynllunio gofalus yn ategu sbloetiau ein cysylltiadau cyhoeddus neu ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn sicrhau canlyniadau busnes go iawn.
I gyflawni hyn, rydyn ni’n recriwtio ac yn buddsoddi’n barhaus mewn pobl ddawnus sy’n lliwgar ac yn chwilfrydig - pobl sy'n awyddus i ddod o hyd i’r peth gorau i’w cleientiaid ac i roi cynnig ar y cyfrwng cymdeithasol neu'r dechnoleg ddiweddaraf; cymeriadau lliwgar, egnïol sy’n dangos balchder ac angerdd dros waith eu cleientiaid.
Gyda nifer o siaradwyr dwyieithog yn gweithio’n fewnol, rydyn ni’n anelu at yr un safonau uchel mewn ymgyrchoedd Cymraeg a Saesneg ac rydyn ni'n credu'n gryf mewn gwneud mwy i hybu a dathlu’r iaith.
Creadigol
Lliwgar
Chwilfrydig
Ystyriol Cymraeg
Beth rydyn ni’n ei wneud
Mae degawdau o brofiad yn y diwydiant wedi dysgu ni sut mae addasu ac yn bwysicach oll, ffynnu ym myd cyfnewidiol y cyfryngau a chyfathrebu. Drwy weithio gyda ni, fe fyddwch chi bob amser gam o flaen y gystadleuaeth.
Mae ein dewrder ym maes cysylltiadau cyhoeddus yn ein galluogi i greu cynnwys cymhellol ar gyfer unrhyw sianel. Rydyn ni’n gwybod sut mae dod â stori eich brand yn fyw a sut mae cysylltu â’ch cynulleidfa - boed drwy cysylltiadau cyhoeddus, y cyfryngau cymdeithasol neu hysbysebu.
Cysylltiadau Cyhoeddus
Marchnata
Cymdeithasol a Digidol
Amlgyfrwng
Ymgyrchoedd 360º
Hyfforddiant
Gwobrau
Rydyn ni wrth ein bodd yn dathlu ein cyflawniadau gyda’n cleientiaid ac rydyn ni’n falch iawn o’n holl ymgyrchoedd llwyddiannus yng Nghymru ac yn y DU! Mae CIPR a CIM wedi ein henwi ni yr asiantaeth orau yng Nghymru bump gwaith ers 2014.
Rydyn ni wedi cael cydnabyddiaeth am Arloesi yn y Sector Cyhoeddus yng Ngwobrau Rhagoriaeth CIM yn y DU, ddwywaith ers 2016. Ac, ers 2013, rydyn ni wedi ennill mwy na 15 Gwobr Aur PRide Cymru.