top of page

Eryl

Jones

Cadeirydd Gweithredol

  • linkedin
  • twitter01
  • Asset 97

Sefydlodd Eryl Equinox yn 1996 ac mae wedi ei lywio i fod ymhlith y cwmnïau cyfathrebu annibynnol mwyaf blaenllaw ac uchel eu parch yng Nghymru.

 

Cymraeg yw ei iaith gyntaf, ac mae wedi bod yn rhan o'r sector cyfathrebiadau am dros 32 o flynyddoedd. Mae'n ymgynghorydd rheoli strategol sy'n arbenigo ar reoli enw da sefydliadau uchel eu proffil. 

Cyn sefydlu Equinox yn 1996, roedd yn Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus yn yr RAC ac yn gyfarwyddwr materion cyhoeddus Bwrdd Rheilffyrdd Prydain yng Nghymru a de Lloegr.

Eryl.png

Eryl yw cadeirydd Menter Caerdydd, y corff sy'n gyfrifol am hyrwyddo ac ehangu defnydd o'r Gymraeg mewn busnes ac yn y gymuned ar draws y brifddinas. Mae hefyd yn eistedd ar Fwrdd Cyfarwyddwyr Beicio Cymru.

Yn ei amser hamdden, mae Eryl yn mwynhau ei chwaraeon - rygbi a rhedeg yn bennaf - ac mae i'w weld yn aml yn cymryd rhan mewn ras 10k, hanner marathon neu farathon llawn.

RDHR_MAI_210815names_01.jpg
IMG_1403.JPG
1ctOaJld_400x400.jpg
bottom of page