Taclo Tipio
Cymru
‘Dim Mwy o Esgusodion Gwastraffus’
Cafodd Equinox ei gomisiynu gan Taclo Tipio Cymru i ddarparu ymgyrch gyfathrebu ddwyieithog genedlaethol yng Nghymru am y ddegfed flwyddyn yn olynol, wedi’i theilwra i anghenion lleol a oedd yn darparu neges glir a chyson ynghylch y mater o dipio anghyfreithlon yng Nghymru a’r alwad i fynd i’r afael ag ef drwy newid cynaliadwy mewn ymddygiad.
Tactegau
Drwy ddull gweithredu grymus, datblygwyd yr hunaniaeth gyffredinol ‘Dim Mwy o Esgusodion Gwastraffus’, i uno pob tacteg unigol ar draws yr holl ymgyrch, gan gynnwys:
-
Datblygu pecynnau digidol gan gynnwys posteri ar y thema i’w lawrlwytho, graffeg + negeseuon a fideos cyfryngau cymdeithasol ar gyfer 50 sefydliad partner Taclo Tipio Cymru
-
10 x datganiad tymhorol i’r wasg er mwyn sefydlu Taclo Tipio Cymru fel arweinydd meddyliau ar amseroedd allweddol o’r flwyddyn: Mis Cenedlaethol Cerdded, Wythnos Gwirfoddolwyr, Wythnos y Parciau Cenedlaethol, Wythnos y Glanhau Mawr
-
Amserlen dreigl o gynnwys dwyieithog difyr ar gyfryngau cymdeithasol + digidol dros 12 mis.
Canlyniadau
-
45 darn o gynnwys yng Nghymru (print, darlledu ac ar-lein) ynghyd â 3 munud ar deledu cenedlaethol
-
428 o bartneriaid wedi ymgysylltu drwy’r pecyn digidol (gan bron ddyblu cyfraddau safonol agor + clicio’r diwydiant)
-
6 miliwn o gyfleoedd i weld / clywed am yr ymgyrch drwy'r cyfryngau
-
78% o gynnydd mewn ymgysylltu a 49% o gynnydd yn y rhai a gyrhaeddwyd ar Facebook o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol
-
19% o gynnydd yn nilynwyr y dudalen Facebook a 12% o gynnydd yn nilynwyr Twitter mewn 12 mis