Hafan
Epig
Hyrwyddo glampio dros dro gyda chanlyniadau epig
Mae Hafan Epig, partneriaeth a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru drwy bartneriaeth rhwng Best of Wales, Cambria Tours a Phenseiri George + Thomas wedi comisiynu Equinox i hyrwyddo’i westy glampio dros dro gyda’r nod o roi hwb i archebion ar gyfer haf 2017.
Tactegau
​
-
Cysylltiadau Cyhoeddus — defnyddiwyd dull gweithredu fesul cam yn cynnwys lansiad yn y wasg (pecyn amlgyfrwng gan ddefnyddio lluniau pensaernïol/CGI; stori ‘derbyn archebion nawr’ (rhyddhau gwybodaeth newydd am leoliadau a phrofiadau i roi hwb i werthiannau); a phecyn ‘cyfle cyntaf i weld’ ar gyfer teithiau’r wasg​
​
-
Ymgysylltu â rhanddeiliaid — buom yn gweithio gyda Croeso Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (tirfeddiannwr lleoliadau), Sianel 4 (rhaglen gomisiwn ‘Cabins in the Wild’), penseiri a phartneriaid prosiect Hafan Epig i gytuno protocol ar gyfer y cyfryngau i reoli yr hyn oedd yn cael ei gyhoeddi, pa bryd, ac i sicrhau negeseuon cydlynus​
​
-
Datblygu cynnyrch — ymgysylltu â masnach allweddol i ddatblygu amserlenni ar gyfer teithiau’r wasg​
​
-
Cyfryngau cymdeithasol — llunio strategaeth a rheoli sianeli cyfryngau cyhoeddus (Instagram, Facebook, Twitter) yn ystod cyfnod yr ymgyrch. Rhoddwyd hysbysebion ar Facebook wedi’u targedu’n benodol iawn i roi hwb i ymweliadau ar y we a’u troi yn ymweliadau go iawn​
​
-
Datblygu brand — cynorthwyo i greu hunaniaeth rymus a set o graffeg gwe/gymdeithasol. Hidlwyd hyn i lawr i’r podiau, gan sicrhau bod gan bob uned ei bwynt gwerthu unigryw epig ei hun. Ysgrifennu copi gan gynnwys disgrifiadau cynnyrch
​​
-
Digidol — cipio ffilm treigl amser o doriad gwawr a ffilm eisoes yn bodoli gan Croeso Cymru i greu fideo 30-eiliad o leoliadau wedi’u cynnwys, gyda’n slogan “Cyffro Cymru” (“Wake up to Wales"). Pecynnu’r cynnwys gyda chynigion cysylltiadau cyhoeddus.
Canlyniadau
​
-
Roedd sylw helaeth yn y cyfryngau yn cynnwys BBC The One Show, The Times, Daily Mail Online, The Telegraph, Wales Online, Metro, ITV Wales, BBC Cymru Wales, Wallpaper, Architectural Digest, ayyb​
​
-
PR OTS: 51.5m​
​
-
52K ymweliad unigol â’r we (Chwefror — Mehefin)
​​
-
Cyrraedd 1.6m drwy’r cyfryngau cymdeithasol
​​
-
43 o archebion (Mai — Mehefin).