Hannah Evans
Rheolwr Cyfrif

Ymunodd Hannah â’r asiantaeth ym mis Ionawr 2021 gan ddod ag ystod eang o brofiadau gyda hi ym meysydd cysylltiadau cyhoeddus a hysbysebu. Mae’n aelod o’r Sefydliad Cysylltiadau Cyhoeddus ac API. Mae'n ddysgwraig Gymraeg angerddol sydd wedi dod â llu o brofiad marchnata a hysbysebu i'w rôl fel Rheolwr Cyfrif.
Gan raddio o Brifysgol Durham gyda 2:1 mewn Llenyddiaeth Ffrangeg a Saesneg, enillodd brofiad fel Swyddog Gweithredol Marchnata Digidol mewnol cyn ennill profiad asiantaeth ar draws sectorau fel Addysg, Teithio a Thwristiaeth, Celfyddydau a Diwylliant, Iechyd a'r trydydd sector.
Ynghyd â rolau asiantaeth a mewnol pellach – gan gynnwys, yn fwyaf diweddar, Swyddog Marchnata a’r Wasg Theatr y Sherman – mae sgiliau Hannah yn
cynnwys strategaeth cysylltiadau cyhoeddus a marchnata; rheoli ymgyrchoedd cyfathrebu integredig; cysylltiadau cyfryngau; marchnata a hysbysebu digidol; cyfathrebu â rhanddeiliaid, ac ysgrifennu copi ar gyfer amryw fformatau.
Yn ei swydd gydag Equinox, mae Hannah yn defnyddio ei hangerdd dros gyfathrebu i gynllunio a rheoli ymgyrchoedd marchnata integredig a yrrir gan ddata ar gyfer cleientiaid fel y BBC, Savills, Llywodraeth Cymru, a Cadw.
Y tu allan i fyd gwaith, mae Hannah wrth ei bodd yn teithio ac fe dreuliodd hi flwyddyn yn byw ac yn addysgu yn Ffrainc. Mae hi hefyd yn mwynhau ysgrifennu creadigol, darllen, dawnsio, ac ymweld â thraethau hardd Cymru waeth beth fo'r tywydd.


