top of page

Her 870

Llwybr Arfordir Cymru

Yn 2022, dathlodd Llwybr Arfordir Cymru ei ben-blwydd yn 10 oed . Am ddim ac yn hygyrch drwy gydol y flwyddyn, does yr un gyrchfan debyg i ymwelwyr —mae'n ymestyn dros 870 milltir o arfordir di-dor.

I nodi'r garreg filltir, cafodd Equinox y dasg o ddyfeisio ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus/digidol cyllideb isel fel bod cymaint o bobl â phosibl yn defnyddio'r Llwybr rhwng mis Mehefin a mis Medi 2022.

WCP_Pembrokeshire-164.jpg

Aethom ati i gyflwyno ymgyrch ddiddorol er mwyn cynyddu nifer yr ymwelwyr yn ystod 2022 a thu hwnthyrwyddo hygyrchedd/cynwysoldeb y Llwybr ac i ysbrydoli cymunedau o Gymru, y DU a thu hwnt i ymgysylltu â diwylliant Cymru.

 

Yn Cyflwyno: Her 870 — her gerdded ledled y wlad dros yr haf, yn uno cerddwyr hamddenol, heicwyr, cerddwyr cŵn, beicwyr, defnyddwyr cadeiriau olwyn, marchogion, grwpiau cymunedol, teuluoedd, preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd i gerdded 870 milltir rhyngddynt, unrhyw le ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.

Defnyddiodd Equinox y model PESO ar draws tri cham ymgyrchu (cyhoeddi'r her, hybu cyfranogiad a datgelu’r canlyniad ar y diwedd) i gyflawni'r cysyniad.

Service Grid.png

Tactegau:

  • Cymysgedd o sianeli y talwyd amdanynt, a enillwyd, a rennir ac a berchnogir.

  • Ymgyrch Meta-hysbysebu wedi'i thargedu'n eang — wedi'i pharu â brandio dwyieithog: The Big 870| Her 870 (a ddyluniwyd gan Equinox) — yn ysgogi cynulleidfaoedd targed i addunedu milltiroedd penodol. Cafodd yr holl hysbysebion eu profi gan ddull A/B, eu monitro'n ddyddiol, a'u haddasu i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl yn erbyn y Dangosyddion Perfformiad Allweddol.

  • Ymgysylltu â dylanwadwyr: dewiswyd Siân Lloyd a Shân Cothi am fod ganddynt 77.7k o ddilynwyr rhyngddynt a'u bod eisoes yn angerddol am y Llwybr (gan sicrhau dilysrwydd a chydweddiad â'r brand).

  • Gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o'r her; ac yn ogystal, defnyddio cysylltiadau cyhoeddus ar ddiwedd yr her i ddathlu cyfanswm y pellter a addawyd — gan ddangos Llwybr Arfordir Cymru fel cyrchfan ddymunol. Roedd yr ail stori’n cynnwys astudiaethau achos twymgalon/anarferol gan unigolion a gymerodd ran, er mwyn gwneud y mwyaf o'r Cysylltiadau Cyhoeddus.

  • Ymgysylltu â phartneriaid/rhanddeiliaid (e.e. ALlau, swyddogion gwybodaeth i ymwelwyr, Croeso Cymru, Cerddwyr, Clybiau Ffermwyr Ifanc ac ati) trwy becyn cymorth rhanddeiliaid, gan ledu'r neges ar sail argymhellion cynulleidfaoedd ehangach.

  • Cystadleuaeth cyfryngau cymdeithasol i hybu cynnwys a gynhyrchwyd gan ddefnyddwyr.

  • Cynnwys cyfryngau cymdeithasol organig i hyrwyddo cerrig milltir allweddol yr ymgyrch, gan gynnwys defnyddio fideos byr ar Instagram a Facebook Stories.

  • Datblygu cynnwys digidol creadigol/y gellir ei rannu i'w ddosbarthu trwy Facebook/Twitter/Instagram.

  • Cynnwys manylion llawn yr her ar wefan Llwybr Arfordir Cymru, gan gynnwys ffurflen i addo milltiroedd (data wedi'i storio'n ddiogel yn unol â GDPR).

  • Rhyddhau ystod o nwyddau pwrpasol ar gyfer y rhai a gyflawnodd yr her, wedi'u cynllunio ar gyfer eu rhoi a choffáu'r llwyddiannau cerdded.

Cynhyrchodd ein strategaeth a'n gweithrediad craff ymgyrch gost-effeithiol iawn, a gyflawnodd mwy na dwbl — bron i dair gwaith — y Dangysoddion Perfformiad Allweddol, i nodi degawd o Lwybr Arfordir Cymru:

Results Grid (1).png
Results Grid (7).png
bottom of page