top of page

Cleientiaid newydd, staff newydd, lleoliad newydd — pennod newydd i brif asiantaeth gyfathrebu Cymru

Gan Equinox




Mae asiantaeth gyfathrebu ddwyieithog fwyaf blaenllaw Cymru, Equinox, yn camu i flaen y llwyfan yr wythnos hon (27 Ebrill) wrth iddi rannu newyddion am ei lleoliad strategol newydd — yr hyb cymuned greadigol, Tramshed Tech.

Mae’r symud yn cefnogi twf yr asiantaeth — yn dilyn ei blwyddyn fwyaf proffidiol ar gofnod (2022) a chael ei choroni’n Asiantaeth y Flwyddyn CIPR Cymru (2022-23).

Hyd yn hyn eleni, mae Equinox wedi sicrhau 6 darn newydd o fusnes ac estyniad i gontractau gyda’i chleientiaid, gan gynnwys prosiectau gyda Llwybr Arfordir Cymru, Llwybrau Cenedlaethol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Doeth am Iechyd Cymru, Trwyddedu Teledu’r BBC, a Taclo Tipio Cymru. Mae hyn oll wedi galluogi’r asiantaeth i ehangu ac ailstrwythuro wrth iddi edrych ymlaen at 2023.

Bydd swyddfa fywiog newydd Equinox yn Tramshed Tech Grangetown yn gefndir ysbrydoledig a chydweithredol ar gyfer hyn — a bydd yn cefnogi’r gyfres o ddyrchafiadau a phenodiadau newydd a fydd yn cyd-fynd â’r symudiad ehangach.

Yn gyntaf ar y rhestr mae Rhian Floyd, sy’n camu i rôl Uwch Reolwr Cyfrif ar ôl pum mlynedd gydag Equinox. Fel arweinydd yr asiantaeth ar y Gymraeg, mae Rhian yn arbenigo mewn dylunio a chyflwyno ymgyrchoedd creadigol dwyieithog i’w chleientiaid.

Yn y cyfamser, mae Tezni Bancroft-Plummer — arweinydd hygyrchedd ac amrywiaeth Equinox — yn symud i rôl Uwch Weithredwr Cyfrif ar ôl 18 mis yn y tîm.
Yn cwblhau strwythur newydd y tîm mae Millie Evans a Charlotte Long — gyda’r naill yn ymuno fel Rheolwr Cyfrif a’r llall fel Gweithredwr Cyfrif.

Daw Millie â sgiliau ym mhopeth, o SEO i reoli digwyddiadau, i’w rôl newydd — ar ôl chwe blynedd o brofiad yn y sectorau Addysg, Llywodraeth, Gweithgynhyrchu a chyfathrebu B2B. Yn y cyfamser, mae Charlotte, un o raddedigion Prifysgol Caerdydd, yn ymuno ar ôl cwblhau interniaeth lwyddiannus.

Nid o ganlyniad i ennill busnes newydd yn unig y mae Equinox yn tyfu. Mae hyn hefyd o ganlyniad i ymrwymiad yr asiantaeth i ddarparu allbwn ardderchog a ffurfio perthnasau hirdymor gyda chleientiaid, fel Taclo Tipio Cymru (dros 15 mlynedd), STEADTLER (dros 10 mlynedd) a Savills (dros 10 mlynedd).

Prawf o hyn yw llwyddiant Equinox yng Ngwobrau PRide CIPR Cymru 2022 — a welodd y tîm yn cipio chwech o wobrau’r diwydiant, gan gynnwys Aur am Yr Ymgyrch Integredig Orau, Ymgyrch Ranbarthol Orau’r Flwyddyn, Y Defnydd Gorau o Gysylltiadau Cyfryngau, Y Fenter Lles Staff Orau, ac Ymgynghoriaeth Cysylltiadau Cyhoeddus y Flwyddyn.

Y gobaith yw y bydd swyddfa newydd Equinox yn Tramshed Tech — a doniau newydd y tîm — yn galluogi’r asiantaeth i barhau i ddarparu ymgyrchoedd craff a chynaliadwy i wneud i’w chleientiaid ddisgleirio.

Mae’r cyfan yn rhan o weledigaeth y Rheolwr Gyfarwyddwr, Helen Wild, sydd wedi trawsnewid y busnes ers ymgymryd â’r rôl yn 2018. Yn ôl Helen:

“Mae Equinox bellach yn ei seithfed flwyddyn ar hugain ac mae’n un o’r asiantaethau cyfathrebu hynaf yng Nghymru, gan wneud Tramshed Tech Grangetown — hen ddepo tram y ddinas sy’n adeilad rhestredig Gradd II — yn lleoliad addas. Fel ni, mae’r tîm yn Tramshed Tech yn paru’r hen a’r newydd, a hanes gydag arloesi — felly ni allem fod yn fwy cyffrous i ddechrau ein pennod newydd yma.

“Fel llawer o fusnesau, rydyn ni’n cofleidio’r 20au gyda diwylliant o newid ac yn canolbwyntio ar anghenion ein cleientiaid a’n pobl — felly, roedd cynnig lleoliad mwy ysbrydoledig a chyfleus i’n tîm sy’n gweithio’n hybrid, ar frig y rhestr.

“Gan gynnig cysylltiadau cludiant rhagorol a mynediad at hybiau cydweithio yn Abertawe, Casnewydd a’r Barri, bydd ein cartref newydd nid yn unig yn dod â ni a’n cleientiaid ledled y DU yn agosach i’w gilydd, bydd hefyd yn ein cysylltu â rhwydwaith ehangach o dalent greadigol yng Nghymru — diolch i ddiwylliant Tramshed Tech o gydweithio.

“At ei gilydd, mae ein newyddion ni heddiw yn adlewyrchu ein nodau strategol ehangach fel asiantaeth — sy’n canolbwyntio ar gynnig gwaith o ansawdd rhagorol i’n cleientiaid a datblygu sgiliau ein tîm — a’r cyfan wrth gynnal ein mentrau lles arobryn ynghyd â tharo ein nodau masnachol yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.

“Dwi mor gyffrous i weld beth ddaw yn y dyfodol, wrth i ni droi’r dudalen at ein pennod newydd yn Tramshed Tech. O’n safle newydd a chyda’n tîm newydd yn ei le, dwi’n credu bod hyn i gyd — a mwy — yn bosib.”
bottom of page