top of page

Ein Rheolwr-Gyfarwyddwr newydd


Rydyn ni’n hynod falch o gyhoeddi bod Helen Wild wedi’i phenodi yn rheolwr gyfarwyddwr newydd Equinox.


Ymunodd Helen ar ôl graddio mewn newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2007, ac mae hi wedi codi trwy’r rhengoedd, gan weithio â chleientiaid yn cynnwys STEADTLER UK a Llywodraeth Cymru a chan arwain nifer o ymgyrchoedd a’r rheini wedi ennill gwobrau.


Yn ei swydd fel rheolwr-gyfarwyddwr bydd yn gyfrifol am arwain cynllun busnes uchelgeisiol, gan gymryd yr awenau oddi wrth y cyn Reolwr Gyfarwyddwr a’r sefydlydd, Eryl Jones, fydd yn symud i swydd newydd fel Cadeirydd Gweithredol.


Dyma beth oedd gan Helen i’w ddweud am y newyddion:


Ar beth fyddwch chi’n canolbwyntio yn y swydd newydd?

Heb ddatgelu gormod, byddaf yn canolbwyntio ar barhau i roi’r gwasanaeth gorau posib i’n cleientiaid — gan herio ein hunain yn barhaus er mwyn darparu mwy fyth o ymgyrchoedd creadigol sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau; mae strategaeth twf uchelgeisiol a chyffrous ar waith; ac yn olaf, ond yr un mor bwysig, bydd pwyslais newydd ar lesiant yn y gweithle, fydd yn helpu i gynnal tîm cadarnhaol a chynhyrchiol.


Beth oedd eich llwybr o fod yn fyfyriwr graddedig i fod yn rheolwr gyfarwyddwr?

Rydw i wedi dal bron pob swydd sydd gan Equinox! Dechreuais fel Gweithredwr Cyfrifon, gan symud i fod yn Rheolwr Cyfrifon ac yna’n Gyfarwyddwr Cyfrifon (gyda swyddi uchel yn y cyfamser.) Yn fwyaf diweddar, treuliais ddwy flynedd fel Cyfarwyddwr Cyswllt yn datblygu ein harlwy integredig. Mae wedi bod yn lle gwych i ddatblygu fy ngyrfa gan fy mod wedi cael profiad o bob disgyblaeth yn y byd cyfathrebu, ynghyd â bod yn ddigon lwcus i weithio gyda chydweithwyr a mentoriaid anhygoel. Hefyd, yn ffodus mae fy ngyrfa wedi datblygu ochr yn ochr â’r cyfryngau cymdeithasol. Roeddwn yn defnyddio Facebook yn y dyddiau cynnar pan nad oedd ond yn agored i fyfyrwyr, a gallwn weld ei botensial fel adnodd ar gyfer Cysylltiadau Cyhoeddus. Ymddangosodd cyfryngau cymdeithasol newydd, fe wnaeth eraill fynd a dod, a disodlwyd papurau newydd gan gyfryngau cyhoeddwyr newydd. Fe wnes i groesawu newidiadau, a chael mwynhad o hynny. Oherwydd hyn, a’r ffaith fy mod yn frwd dros y cyfryngau cymdeithasol, gallais lunio rôl i mi fy hun a chreu llawer mwy o gyfleoedd.


Beth yw’r peth gorau am weithio i Equinox?

Y tîm — mae yno bobl anhygoel o dalentog ac angerddol yn Equinox, maen nhw’n gweithio’n ddiflino i greu’r ymgyrchoedd gorau ar gyfer eu cleientiaid ac mae llawer o hwyl i’w gael gyda nhw. Rydyn ni hefyd yn lwcus i gael gweithio gyda chymysgedd wych o gleientiaid felly does dim un diwrnod diflas.


Unrhyw gyngor i unigolion sy’n gobeithio dilyn eich llwybr?

Cymerwch reolaeth ar eich gyrfa. Peidiwch â disgwyl i’r llwybr gael ei osod o’ch blaen — rhaid i chi ei greu. Yn ein diwydiant ni, does neb yn wir yn gwybod sut bethau fydd swyddi cyfathrebu mewn deg, neu hyd yn oed bum mlynedd, felly chwiliwch am wybodaeth, dysgwch sgiliau newydd, a heriwch eich hun i wella.

bottom of page