top of page

Gwobrau PRide Cymru

Updated: Feb 26, 2019

Rydyn ni’n paratoi i wisgo ein dillad crand a’n hesgidiau dawnsio i ddathlu’r ffaith ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer naw gwobr yng Ngwobrau PRide Cymru CIPR.


Mae ein hymgyrch Chwilio am Chwedlau gyda Cadw wedi cyrraedd y rhestr fer o dan dri chategori — Sector Cyhoeddus | Ymgyrch y Celfyddydau, Diwylliant neu Chwaraeon | Ymgyrch Teithio, Hamdden neu Dwristiaeth, tra bod ein prosiectau digidol arloesol wedi cael eu henwebu yn y categori Defnydd Gorau o Ddigidol.


Yn y cyfamser, rydyn ni wrth ein bodd bod ein hymgyrch Wythnos Rhoi Organau gyda Llywodraeth Cymru ar y rhestr fer ar gyfer yr Ymgyrch Gofal Iechyd orau - ymgyrch sydd wedi codi ymwybyddiaeth o achos mor bwysig a gwerth chweil.


A byddwn ni’n croesi ein bysedd ar ran ein tîm STAEDTLER, sydd wedi cael tri enwebiad am ei waith ar Glwb Athrawon y DU ar ran y brand — sydd ar y rhestr fer ar gyfer Cysylltiadau Defnyddwyr | Defnydd Gorau o Ddigidol | Defnydd Gorau o’r Cyfryngau Cymdeithasol


Tybed fyddwn ni’n ennill y teitl Ymgynghoriaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Ragorol am y trydydd tro hefyd?! Gobeithio yn wir!

bottom of page