Gan Equinox
Heddiw, cyhoeddwyd ysgoloriaeth newydd gan Equinox mewn cydweithrediad ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd — er mwyn annog siaradwyr Cymraeg i ddilyn gyrfa ym myd PR a marchnata.
Mae’r bartneriaeth arbennig sydd gennym gydag Ysgol y Gymraeg wedi mynd o nerth i nerth, wrth i sawl myfyriwr ymuno ag Equinox am gyfnod o brofiad gwaith eisoes — gan weithio ar amryw o gleientiaid gwahanol i ddatblygu eu sgiliau creadigol, ysgrifennu a chyfathrebu law yn llaw â’u hastudiaethau.
Yn ogystal, mae ein huwch-reolwr cyfrif, Rhian Floyd, a’n gweithredwr cyfrif, Dafydd Orritt, wedi cyfrannu’n gyson fel siaradwyr gwadd ym Mhrifysgol Caerdydd — gan ysbrydoli cyfathrebwyr Cymraeg y dyfodol drwy gynnig mewnwelediad i’r byd PR a chyfathrebu yng Nghymru a chynnig cyngor gyrfaol i fyfyrwyr sy’n dilyn modiwlau megis 'Yr Iaith ar Waith'.
Mae’r ddau, fel cyn-fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg, yn falch iawn o fod yn gweithio ar yr ysgoloriaeth ac yn edrych ymlaen yn fawr at dderbyn y ceisiadau a chydweithio gyda’r myfyriwr llwyddiannus dros yr haf.
Mae’r ysgoloriaeth arbennig hwn yn gyfle gwych i Equinox helpu myfyriwr sy’n astudio yn Ysgol y Gymraeg gyda chyfraniad ariannol, yn ogystal â’r cyfle i gydweithio ar ein hymgyrchoedd dwyieithog — gan ddatblygu syniadau, creu cynnwys deniadol a gweithio o’n swyddfa newydd sbon yng nghanol Caerdydd. Mae’r diwydiant PR a marchnata yng Nghaerdydd yn ffynnu o flwyddyn i flwyddyn gyda chyfathrebwyr newydd, talentog.
Rhaid i ymgeiswyr yr ysgoloriaeth arddangos eu sgiliau creadigol drwy gyflwyno ymgyrch Gymraeg a fydd yn cael ei weithredu gydag un o’n cleientiaid, ac mae gofyn i bob cais gael ei ysgrifennu ar ffurf e-gylchlythyr er mwyn annog myfyrwyr Ysgol y Gymraeg i feddwl yn greadigol — ac ymarfer arddull newydd o ysgrifennu a fydd yn ddefnyddiol iawn ar gyfer dilyn gyrfa ym myd PR a marchnata.
Comments