Gan Equinox

Fel pob cyfathrebwr, mae gennym adnoddau penodol sy’n gwneud ein gwaith o ddydd i ddydd ychydig bach haws — boed yn wefan Hootsuite, blogiau arbenigol, neu LinkedIn ar gyfer tips. Ond yn ffodus iawn, yma yng Nghymru mae gynnom lu o adnoddau gwerthfawr i sicrhau ein bod ni’n gyfathrebwyr o fri ym mhob agwedd o’n gwaith, a hynny i gyd drwy’r Gymraeg.
Cysill
Heb os, mae Cysill yn un o’r adnoddau fwyaf pwysig ar gyfer y cyfathrebwr Cymraeg — boed ar gyfer sicrhau cywirdeb mewn copi cyfryngau cymdeithasol, datganiad i’r wasg neu becyn i rhanddeiliaid, does dim un gair neu strwythur brawddeg dydi Cysill ddim yn gyfarwydd a!
Geiriadur yr Academi
Adnodd sy’n gwneud gwaith unrhyw gyfathrebwr yn haws yw geiriadur, a dyna pam fod Geiriadur yr Academi yn adnodd gwych ar gyfer pan mae geiriau’n cwymp allan o’n pennau’n gyfan gwbl! Mae’n ddefnyddiol ar gyfer dylunio ymgyrchoedd dwyieithog a sicrhau bod y Gymraeg yn gywir ar draws pob agwedd o waith y cyfathrebwr Cymraeg.
Term Cymru
Does dim un diwrnod yr un fath ym myd cyfathrebwr, yn enwedig os ydych chi yn gweithio ar draws lli o gleientiaid gwahanol o fewn sectorau gwahanol. Wrth weithio ar amryw brosiectau mae angen sicrhau eich bod yn deall terminoleg benodol neu fwy technegol, a dyna pam fod Term Cymru yn adnodd gwerthfawr er mwyn sicrhau eich bod chi wedi deall gair penodol cyn i chi eu defnyddio mewn blog, cynnwys cymdeithasol neu e-gylchlythyr!
Cwrs Cymraeg Gwaith
Mewn Partneriaeth a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, mae Cwrs Cymraeg Gwaith yn berffaith ar gyfer unrhyw gyfathrebwr Cymraeg sydd yn dysgu’r Gymraeg neu awydd ychydig mwy o gyngor! Wedi’i achredu gan y corff proffesiynol y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR) nod y cwrs yw codi safonau cyfathrebu dwyieithog yng Nghymru, a rhoi’r hwb ychwanegol i unrhyw un sydd ei angen.
BBC Radio Cymru
Boed yn gwrando ar raglen Dros Frecwast ar y ffordd i’r swyddfa, neu ar y rhaglen ddyddiol Dros Ginio, mae’n hanfodol bod unrhyw gyfathrebwr da yn gwybod y diweddaraf ar draws materion cyfoes Cymru — dydych chi byth yn gwybod be allith sbarcio syniad am stori PR dda!
Cymuned Sylw
Rydym yn lwcus yma yng Nghymru i gael sefydliadau a grwpiau sy’n mwynhau helpu eraill, dyna pam mai Cymuned SYLW – cymuned ar gyfer cyfathrebwyr Cymraeg ar Facebook yw’r man perffaith i ofyn am gymorth, rhannu syniadau, helpu eraill a rhoi barn ar ymgyrchoedd amrywiol.
Ein cydweithwyr
Boed yn gweithio mewn asiantaeth PR a marchnata fel Equinox, neu ar dîm marchnata yn fewnol, weithiau'r oll sydd angen yw aelod o’r tîm i drafod yr ymgyrch, rhannu syniadau neu ofyn am gyfieithiad — does dim byd mwy gwerthfawr nag adborth a chymorth eich cyd-gyfathrebwyr!
Comentarios