top of page

Rydyn ni’n Chwilio am Swyddog Gweithredol Cyfrif

Updated: Aug 10, 2021

Gan Equinox

Pwy ydyn ni? Equinox: un o brif asiantaethau cyfathrebu Cymru — ac un sy'n ymfalchïo mewn bod yn Greadigol, Lliwgar, Chwilfrydig, Ystyriol a Chymraeg.

Pwy wyt ti? Ymarferydd awyddus sy’n chwilio am her newydd; rhywun sy’n gallu arddangos holl rinweddau Equinox a restrir uchod – yn ogystal â sawl un arall sydd ei angen i fod yn gyfathrebwr/wraig proffesiynol disglair yn y byd modern heddiw.

Diolch i ymgyrchoedd sydd ar y gweill ar gyfer cleientiaid presennol a newydd, bydd gweddill 2021 a thu hwnt yn un o’n cyfnodau mwyaf cyffrous hyd yma. Os ydych chi eisiau bod yn rhan o'r cwbl, lawrlwythwch y manylion swydd isod.

Swyddog Gweithredol Cyfrif
.pdf
Download PDF • 86KB

I wneud cais, cyflwynwch eich CV i Helen Wild (helen@equinox.cymru), erbyn 11:59yh ar 20 Awst. Cynhelir cyfweliadau gydag ymgeiswyr ar y rhestr fer yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn ar 23 Awst gyda'r ymgeisydd llwyddiannus yn cael gwybod ddiwedd mis Awst.

bottom of page