Rhoi Organau
#CaelYSgwrs
Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, cafodd Equinox gomisiwn gan Rhoi Organau yng Nghymru i ddarparu ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus a chyfryngau cymdeithasol genedlaethol ddwyieithog i annog unigolion 18-34 i rannu eu penderfyniad o ran rhoi organau gyda’u hanwyliaid ac i gofrestru eu penderfyniad ynghylch rhoi organau ar-lein.
Tactegau
-
Defnyddio Wythnos Rhoi Organau (4 Medi 2017) fel lansiad cenedlaethol yn y cyfryngau
-
Partneriaeth bwrpasol gyda ‘I Loves the ‘Diff’ (y mae’r sylfaenydd ei hun yn rhoddwr aren byw), i gynhyrchu set o bedwar llyfr ar thema rhoi organau yn y casgliad Taffywood Books yn cynnwys is-neges am roi organau i gyrraedd unigolion 18-34 ar draws Cymru.
-
8 x sioeau teithiol i gyflogwyr ar draws Cymru
-
Ymgyrch ddwyieithog ‘Straeon Instagram’ gan ddefnyddio arbenigwyr creadigol Taffywood Books fel y gallai unigolion 18-34 ‘sweipio’ i gofrestru eu penderfyniad ar roi organau YNGHYD Â ‘geo-filter’ Snapchat dwyieithog mewn ardaloedd myfyrwyr
-
Cyflenwi matiau cwrw a phosteri unigryw Rhoi Organau yng Nghymru i 330 o glybiau rygbi + 200 o leoliadau ieuenctid yn Ne Ddwyrain Cymru
-
1 x pecyn electronig o adnoddau i’w llwytho i lawr ar gyfer partneriaid
Canlyniadau
-
14.5m OTS drwy lansiad yn y wasg + 16 munud o gynnwys darlledu cenedlaethol
-
24,000 o gyflogeion yn cymryd rhan yn ymgyrch sioe deithiol Wythnos Rhoi Organau
-
Ymgysylltu â 43k ar dudalennau’r cyfryngau cymdeithasol
-
2,686 yn ‘sweipio i fyny’ o Straeon Instagram i dudalen cofrestru rhoi organau ar wefan yr ymgyrch
-
5,486 o gofrestriadau newydd yng Nghymru ym Medi 2017 o’i gymharu â 4k ym mis Awst 2017