Sero Net Diwydiant Cymru
EmpowerCymru 2024 — digwyddiad dynodedig cyntaf Cymru yn cefnogi diwydiannau yn eu trawsnewidiad i sero net.

Mae diwydiant trwm yn gyfrifol am fwy na 50% o allyriadau carbon Cymru — felly, yn 2023/24, cawsom ein comisiynu gan Sero Net Diwydiant Cymru (NZIW) i wneud gwaith cyfathrebu i newid ymddygiad, ac arfogi diwydiant Cymru gyda’r gallu, cyfle a chymhelliant i gychwyn ar eu siwrnau at gyflawni sero net.
​
Un o’n tactegau oedd i ddatblygu a lansio EmpowerCymru — digwyddiad un-diwrnod, ysbrydoledig, mewn cydweithrediad â phartneriaid strategol allweddol.
​
Wedi’i cynnal yn y Parkgate Hotel, Caerdydd, ym Mawrth 2024, daeth y digwyddiad â diwydiant, buddsoddwyr, sefydliadau sector cyhoeddus ac arweinwyr agweddau at ei gilydd i rannu profiadau, a chynnal trafodaethau ymarferol am y rhwystrau i gyrraedd sero net, a’r strategaethau i oresgyn rheiny.
​
Cynhaliwyd y digwyddiad yn ddwy ran, gyda’r bore’n ffocysu ar ‘y siwrnau hyd yma’ — yn uwcholeuo’r cynnydd a wnaed o fewn Clwstwr Diwydiannol De Cymru, gan gynnwys astudiaethau achos ysbrydoledig gan aelodau’r Clwstwr. Yna, yn y prynhawn, archwiliwyd ‘y siwrnau o’n blaenau’, yn dod â lleisiau’r diwydiant o Celsa, EY a Llywodraeth Cymru ynghÅ·d ar gyfer trafodaeth banel wedi’i chynnal gan arbenigwr cynaliadwyedd a newyddiadurwr BBC, Sarah Dickens.

Tactegau:
​
-
Cynllunio a rheoli digwyddiad — rheolaeth prosiect a chyllideb manwl, ynghÅ·d â chyswllt gyda rhanddeiliaid, y lleoliad, darparwyr (ffotograffydd, clyweledol), siaradwyr gwadd, ayyb i gydlynu’r Gynhadledd.
-
Cysyniadu a brandio — datblygu hunaniaeth y digwyddiad, ‘EmpowerCymru’, ac elfennau brand gweledol, ynghÅ·d â chydweithio’n agos gyda NZIW a’r noddwr, EY, i ddatblygu rhaglen y digwyddiad. Roedd hyn yn cynnwys cydlynu themau/agenda a briffio siaradwyr/cynhaliwr.
-
PR a chreu cynnwys cyfryngau cymdeithasol organig a rheolaeth cymunedol — cyn ac ar ôl y digwyddiad (e.e., sut i archebu lle, datgelu siaradwyr, themau) i yrru cofrestriadau a sgyrsiau diwydiannol.
-
Dylunio — o wahoddiadau’r digwyddiad i gynnwys clyweledol a graffegau cyfryngau cymdeithasol, dyluniodd Equinox ddeunyddiau yn unol â brandio NZIW a chanllawiau brand partneriaid a noddwyr.
-
Logisteg archebu — gweithio gyda Busnes Cymru i hwyluso system bwcio’r digwyddiad a rheoli elfennau ymarferol cyn y digwyddiad (e.e., gwybodaeth hygyrchedd, anghenion deietegol, RSVPs, ayyb). Cynhaliwyd gwybodaeth ychwanegol ar dudalen gwefan dynodedig NZIW.
-
Rheolaeth digwyddiad llawn — roedd ein tîm yn ganolog i sicrhau digwyddiad di-drafferth ym mhob ystyr, a dal cynnwys ar gyfer gwaith cyfathrebu wedi’r digwyddiad.
