Taclo Tipio Cymru
Annog Cymru i ddilyn ei Dyletswydd i Ofalu.
​
Mae tipio gwastraff yn parhau i sarnu tirweddau naturiol Cymru — felly, yn 2023-24 gweithion ni gyda’n cleient o 17 mlynedd, Taclo Tipio Cymru, i greu ymgyrch gwahanol i’r after i daclo tipio.
Am y tro cyntaf erioed, defnyddiom gymysgedd o gynnwys UGC doniol a chyfres o ‘stynts’ PR uchel-eu-himpact i atgyfnerthu neges yr ymgyrch: defnyddiwch gludwr gwastraff cofrestredig bob tro a byddwch yn ymwybodol o’r nifer cynyddol o dipwyr gwatraff ar Facebook.
​
Rhedom wythnos ymwybyddiaeth ‘Stopiwch Tipwyr Gwastraff Facebook’ hefyd — yn codi ymwybyddiaeth o sgamwyr ar-lein trwy ymgyrchoedd digidol a radio creadigol.
Tactegau:
​
-
Gweithio gyda chrëwyr UGC a dylanwadwyr i oresgyn ‘banner blindness’ — sef gallu awtomatig pobl i osgoi cynnwys sy’n edrych fel hysbysebu — gydag ymgyrch hysbysebu digidol, yn defnyddio cynnwys gan rhai o hoff ddylanwadwyr Cymru, gan gynnwys Ellis Lloyd Jones, Welsh Mummy Steph a Tom Rix Comedy.
-
Ymgyrchoedd hysbysebu cyfryngau cymdeithasol, wedi’u targedu’n fanwl, ar draws Meta, YouTube a TikTok — wedi’u hoptimeiddio ar gyfer ymwybyddiaeth ac ymgysylltu a’u monitro’n ddyddiol i sicrhau’r canlyniadau gorau posib vs. KPIs. Roedd cynnwys UGC yn help fawr tuag at ymgysylltu â chenhedloedd iau.
-
Ymgyrch hysbysebu radio doniol, yn cynnwys llais seren TikTok, Tom Rix Comedy — wedi’i darlledu ar draws safleoedd radio mwyaf poblogaidd Cymru, gan gynnwys Capital, Smooth a Heart — i dros 319,000 o wrandawyr.
-
Stynt cenedlaethol ‘digi-vans’ ac ymgyrch PR — yn defnyddio lluniau wedi’u golygu i uwcholeuo realiti posib tipio gwastraff ar rai o hoff leoliadau harddwch Cymru.
-
Cynnwys ‘busnes fel arfer’ i gefnogi ac atgyfnerthu negeseuon allweddol yr ymgyrch.