Tezni Bancroft-Plummer
Gweithredwr Cyfrif

Gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Cyfryngau, Diwylliant a Newyddiaduraeth o Brifysgol De Cymru, ymunodd Tezni â Equinox yn 2021 – â’i hangerdd, gwybodaeth a’i sgiliau Cymraeg yn adlewyrchu gwerthoedd Equinox yn berffaith.
Wedi iddi astudio sawl agwedd ddomestig a chenedlaethol ar y cyfryngau, diwylliant a chreadigrwydd, mae chwilfrydedd Tezni a’i brwdfrydedd yn darparu cefnogaeth amhrisiadwy i’r tîm, gan weithio ar draws cleientiaid fel BBC TV Licensing, STAEDTLER, Valleys Regional Park a Tennis Wales.
Y tu allan i fywyd yr asiantaeth, bydd Tezni’n brysur yn gwneud un o dri o’i hoff bethau: dawnsio; teithio’r byd NEU fwyta siocled.
I’r rheiny sydd â diddordeb, mae’n rhestru Venice, Paris a Barcelona fel tri o’i hoff gyrchfannau – a Dairy Milk, Kinder Bueno a Galaxy Caramel fel ei hoff siocled!


