top of page

Y Cymoedd

Cariad at y Cymoedd

Fe wnaeth Y Cymoedd — partneriaeth rhwng chwe awdurdod lleol yn ne Cymru — gomisiynu Equinox ym mis Ebrill 2018 i ddarparu ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o'r gyrchfan y tu allan i Gymru (targedau cyfryngau cenedlaethol a theitlau rhanbarthol coridor yr M4). 

    Tactegau​

​​

  • Defnyddio pen-blwydd y GIG yn 70 oed (Gorffennaf ’18) fel bachyn newyddion i gomisiynu Nathan Wyburn, artist o’r Cymoedd, i greu portread anferth o Aneurin Bevan, sylfaenydd y GIG, ar ochr mynydd yn y Cymoedd fel stynt cysylltiadau cyhoeddus
    ​

  • Cynnwys negeseuon cadarnhaol am Y Cymoedd ac am Å´yl Gerdded y Cymoedd, a oedd yn cynnwys Llwybr Aneurin Bevan, lle gallai ymwelwyr ddilyn ôl ei droed (gan ychwanegu galwad i weithredu ar gyfer lefel y gyrchfan)
    ​

  • Ffilmio fideo treigl amser o’r portread yn cael ei greu fel rhan o becyn amlgyfrwng a chyflwyno’r syniad i’r cyfryngau dan embargo ynghyd â nodyn i’r dyddiadur ar gyfer digwyddiad galw’r cyfryngau
     

  • Datblygu taith i’r wasg er mwyn annog papurau newydd cenedlaethol i ddod i’r ardal

 Canlyniadau

​

  • 103 o ddarnau yn y cyfryngau, gan gynnwys pum darllediad (gan gynnwys y BBC ac ITV), sylw ledled Cymru a sylw rhanbarthol cyffredinol ledled y DU ac Iwerddon, a sylw mewn pum papur newydd cenedlaethol gan gynnwys The Daily Telegraph
     

  • ​Y Cymoedd yn cael sylw cadarnhaol a Gŵyl Gerdded y Cymoedd yn cael ei chynnwys
    ​

  • Cyrhaeddwyd 7.6m yn ystod yr ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus
    ​

  • Cynnwys amlgyfrwng wedi'i weld 844k+ gwaith, wedi’i rannu 18.8k gwaith ac wedi cael 6.8k o ymatebion ar draws cyfryngau cymdeithasol
    ​

  • Taith i’r wasg wedi’i threfnu gydag un o newyddiadurwyr y DU o’r Press Association (ar gyfer Awst ’18) a fydd yn ysgrifennu erthygl nodwedd ar draws nifer o deitlau

bottom of page