Helen
Wild
Rheolwr Gyfarwyddwr
Ymunodd Helen ag Equinox yn 2007, gan godi drwy’r rhengoedd a threulio dwy flynedd yn datblygu cynlluniau cyfathrebu integredig yr asiantaeth fel cyfarwyddwr cyswllt, cyn cael ei phenodi yn rheolwr gyfarwyddwr ym mis Medi 2018.
Mae Helen yn siaradwr Cymraeg sydd â gradd mewn newyddiaduraeth o Brifysgol Caerdydd. Mae hi’n arbenigo mewn marchnata cyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu integredig ar ôl arwain sawl ymgyrch llwyddiannus ar gyfer cleientiaid uchel eu proffil, gan gynnwys STAEDTLER a Llywodraeth Cymru.
Yn ei swydd fel rheolwr gyfarwyddwr, mae Helen yn goruchwylio portffolio trawiadol o gleientiaid Equinox ac yn arwain cynllun twf busnes yr asiantaeth. Mae Helen yn annog rhagoriaeth yn y diwydiant marchnata drwy ei swydd wirfoddol fel aelod o Fwrdd Sefydliad Marchnata Siartredig Cymru, lle mae hi’n rheoli gweithgareddau cyfryngau cymdeithasol a chysylltiadau cyhoeddus y Sefydliad.
Yn ei hamser hamdden, mae hi'n mwynhau teithio i lefydd newydd diddorol gyda’i gŵr, Ollie, gwrando ar ganu gwlad ac yfed rosé o Provence.