top of page

Tîm

20211111_PT-Equinox_159.JPG

I nifer o gleientiaid hirsefydlog Equinox, mae ein tîm yn cynnig rhagoriaeth, arloesedd a phâr diogel o ddwylo. Rydyn ni’n dîm clos sy’n anelu at ddod yn estyniad o’ch tîm chi.
 

Tîm arobryn o feddylwyr strategol, cynhyrchwyr creadigol a thrinwyr cyfrifon manwl — mae ein profiad yn rhychwantu ystod eang o sectorau ar draws cleientiaid B2C a B2B.
 

Rydyn ni’n recriwtio pobl dalentog sy’n adlewyrchu gwerthoedd ein hasiantaeth o greu ymgyrchoedd clyfar a chynaliadwy i wneud i’n cleientiaid ddisgleirio — a buddsoddi yn eu datblygiad i sicrhau eu bod bob amser ar y blaen. 
 

Mae’r tîm yn cynnwys saith siaradwr Cymraeg rhugl ac mae’r gweddill yn ddysgwyr. Dewch i gwrdd â ni am sgwrs (ddwyieithog): gartref (yn rhithwir!), yn ein swyddfa yn Llanisien, neu yn ein ‘Canolfan Greadigol’ yn Tramshed Tech. Gyda’n gilydd, byddwn yn eich cadw yng ngolwg y cyhoedd.

Eryl.png

Eryl Jones

Cadeirydd Gweithredol

Sefydlodd Eryl Equinox yn 1996, ac mae wedi ei lywio i fod ymhlith y cwmnïau cyfathrebu annibynnol mwyaf blaenllaw yng Nghymru.

Mwy o wybodaeth...

907lsbD2TMCwOQtoM6i8sA.jpg

Hannah Evans

Rheolwr Cyfrif

Ymunodd Hannah yn 2021, gan ddod ag ystod eang o brofiadau gyda hi ym meysydd cysylltiadau cyhoeddus a hysbysebu.

Mwy o wybodaeth...

Dafydd.jpg

Dafydd Wyn Orritt

Gweithredwr Cyfrif

Ymunodd Dafydd gyda Equinox yn dilyn graddio o brifysgol Caerdydd gyda 2:1 mewn Cymraeg a Newyddiaduraeth.

Mwy o wybodaeth...

profile.jpg

Siân Jones

Ymgynghorydd Cyfathrebu

Mae Siân yn hyfforddwr cymwys ac mae hi yn mwynhau hyfforddi eraill i ddatblygu eu sgiliau ymgysylltu eu hunain.

Mwy o wybodaeth...

helennew.png

Helen Wild

Rheolwr Gyfarwyddwr

Mae Helen yn arbenigo mewn cyfathrebu integredig a bydd hi’n sicrhau bod eich ymgyrch yn gweithio ar draws sawl sianel.

Mwy o wybodaeth...

RhianBW.jpg

Rhian Floyd

Rheolwr Cyfrif

Fel myfyriwr graddedig Y Gymraeg ac Iaith Saesneg, daw Rhian â straeon cleientiaid yn fyw yn y ddwy iaith. 

Mwy o wybodaeth...

Screenshot_20210913-140926_Gallery.jpg

Tezni Bancroft-Plummer

Gweithredwr Cyfrif

Ymunodd Tezni â Equinox yn 2021 – â’i hangerdd, gwybodaeth a’i sgiliau Cymraeg yn adlewyrchu gwerthoedd Equinox yn berffaith.

Mwy o wybodaeth...

bottom of page