top of page

7 Rheswm dros Ddefnyddio’r Gymraeg ar Gyfryngau Cymdeithasol

Updated: Mar 15, 2019

Gyda chyfryngau cymdeithasol yn gyrru mwy o bobl at wefannau na Google, mae’n glir ei fod yn arf bwerus. Ar ben hynny, gyda mwy o bwyslais nag erioed ar ddefnyddio’r Gymraeg a hybu dwyieithrwydd, does dim dwywaith bod defnyddio’r Gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol yn allweddol i fusnesau. Dyma 7 rheswm pam:

1. Sefyll allan mewn môr o Saesneg

Mae’n rhwydd diflasu wrth fflicio trwy ffrwd uniaith, felly gall drydariad neu neges yn y Gymraeg ddal llygad eich cynulleidfa, a denu eu sylw. Mae bod yn ddwyieithog hefyd yn rhoi opsiwn i’ch cynulleidfa (ac mae pobl yn hoffi cael opsiynau!).

2. Agor y drws i gynulleidfa ehangach

Gyda nifer o bobl yn ffafrio defnyddio’r Gymraeg dros y Saesneg, gall deilwra iaith eich cyfryngau cymdeithasol iddynt ddenu cynulleidfa newydd, ehangach, sy’n debygol o’ch cefnogi yn yr hir dymor.

3. Pwynt gwerthu unigryw

Rhaid cofio nad yw holl fusnesau Cymru o reidrwydd yn cynnig gwasanaeth Cymraeg. Mae defnyddio’r Gymraeg ar eich cyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn bwynt gwerthu unigryw, felly.

4. Cyfle i dargedu cynulleidfa benodol

Gallwch gymryd mantais o hashnodau a thudalennau sy’n hyrwyddo cynnwys a digwyddiadau Cymraeg, ac sy’n help wrth ddod o hyd i gymunedau Cymraeg a’u targedu ar gyfryngau cymdeithasol.

5. Gwella enw da a gwerthoedd eich brand

Mae’r iaith Gymraeg yn rhan bwysig o hunaniaeth nifer fawr o Gymry, ac wrth rannu’r un gwerthoedd â’ch cynulleidfa trwy’ch defnydd o’r Gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol, mae’n debygol iawn y cewch enw da yn eu plith.

6. Datblygu sgiliau iaith Gymraeg eich gweithwyr

Efallai ond ychydig o bobl sy’n gallu siarad Cymraeg yn eich busnes, ond wrth gynnig cyfryngau cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg, gallai annog eich tîm i eisiau dysgu’r Gymraeg. Yn y pen draw, bydd hyn yn fuddiol i’r unigolion ac i’ch busnes.

7. Gwella hygyrchedd y Gymraeg i bobl ifanc

Gall ddefnyddio Cymraeg mwy llac ac anffurfiol ar gyfryngau cymdeithasol ddenu pobl ifanc i ddefnyddio math o Gymraeg sy’n fwy hygyrch na Chymraeg yr ystafell ddosbarth. Pobl ifanc yw dyfodol ein busnesau, wedi’r cwbl.

bottom of page