top of page

     Tactegau

  • Yn yr un modd â sawl sefydliad, roedd effaith y pandemig ar y wlad yn ystod chwarter cyntaf 2020 yn mynnu ein bod yn ymateb yn gyflym ac yn effeithlon trwy addasu ein cynlluniau a datblygu syniadau creadigol a helpodd i godi proffil S4C wrth gadw at newidiadau parhaus i ganllawiau’r llywodraeth.

  • Roedd hyn yn cynnwys gosod y cyfrifoldeb o ffilmio yn nwylo ein cynulleidfa, gan leihau felly yr angen am gyswllt corfforol â'n fideograffwyr.  

     Canlyniad:

  • Fideo diolch: Buom yn gweithio'n agos ag S4C i gyflwyno fideo byr yn ystod yr hysbysebion, i ddangos cefnogaeth ac i ddiolch i weithwyr allweddol yn ystod y pandemig.

  • Gan weithio o fewn amserlenni hynod o dynn, llwyddom i sicrhau cyfraniad gan bobl o wahanol gefndiroedd sy’n byw yng Nghymru a’u tasg, yn syml, oedd i ddweud ‘Diolch’ o flaen y camera.  

  • Yn ogystal â chynnwys ystod amrywiol o wylwyr go iawn, fe wnaethom hefyd gynnwys ychydig o bobl ddethol sydd ar restr cysylltiadau enwogion S4C. Optimeiddiwyd y fideo ymhellach i'w ddefnyddio ar sianeli cyfryngau cymdeithasol S4C.

  • Y canlyniad? Fideo twymgalon wedi'i olygu'n hyfryd a lwyddodd i ddal ysbryd y genedl gan osod S4C fel brand meddylgar, cynhwysol.

  • Gwyliwyd y fideo (dde) 16.6k o weithiau ar Facebook ac Instagram yn unig.

  • Cyfres Adref Gyda: Yn dilyn pennod gychwynnol lle cyfunodd Equinox y clipiau mwyaf calonogol ac ysbrydoledig ar draws y cyfryngau cymdeithasol, dyfeisiodd a chynhyrchodd Equinox ddwy bennod arall, fwy manwl.

  • Roedd y penodau hyn yn dilyn tri theulu adnabyddus dros bythefnos wrth iddynt addasu i’r ‘normal newydd’. Ffurfiodd hyn y gyfres newydd Adref Gyda ar S4C Clic. 

  • Gyda briffiau a chyfarwyddiadau ffilmio, cafwyd gipolwg gan y teuluoedd o'u huchafbwyntiau ac isafbwyntiau yn ystod y clo.

  • Golygwyd y ffilm hon gan Equinox a'i phartner cynhyrchu fideo, Copa, i mewn i ddwy bennod atyniadol a doniol, gan roi sylw i effaith y pandemig ar bobl yng Nghymru.

  • Roedd y gyfres nid yn unig yn gyfrwng chwerthin i ddefnyddwyr yn ystod cyfnod cynnar y pandemig, ond fe fydd hefyd yn gofiant pwysig am un o’r cyfnodau mwyaf nodedig - a heriol - ym mywydau llawer o bobl. 

bottom of page