Siân
Jones
Ymgynghorydd Cyfathrebu
Ymunodd Siân â Equinox yn 2005 ac erbyn hyn mae'n rhannu ei chyfoeth o brofiad fel ymgynghorydd cyfathrebu strategol. Mae Siân wedi gweithio gydag ystod o gleientiaid gan gynnwys y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ERW - y corff gwella dysgu ac hyffoddiant ac Hosbis Dewi Sant.
Y tu allan i Equinox mae Siân wedi gweithio mewn uwch rolau cyfathrebu ar gyfer GIG Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Comic Relief.
Fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, gall Siân gyflwyno ymgyrchoedd cyfathrebu dwyieithog integredig wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion penodol ac unigryw pob cleient.
Mae Siân yn hyfforddwr cymwys ac mae'n mwynhau hyfforddi eraill i ddatblygu eu sgiliau ymgysylltu eu hunain. O hyfforddiant un-i-un gyda Phrif Weithredwyr ac Uwch Reolwyr i grwpiau o staff sy'n gweithio ar y rheng flaen, mae Siân yn darparu hyfforddiant cyfathrebu i helpu cleientiaid i gyfathrebu'n glir ac ymgysylltu'n effeithiol.
Ar benwythnosau, fe allech fel arfer gael hyd i Siân yn yr awyr agored wrth iddi fwynhau golygfeydd syfrdanol Cymru cyn iddi osod ei hun yn y gegin am noson o goginio ac ymlacio.